Amdanom Ni
BETH A WNAWN
- Cyhoeddi’r cylchgrawn HARP: mae ein cylchgrawn i aelodau a gyhoeddir ddwywaith y flwyddyn yn llawn newyddion o fyd y delyn, ac adolygiadau o gerddoriaeth newdd, cryno-ddisgiau, cyngherddau a chyrsiau; mae’n cynnwys hefyd erthyglau perthnasol a diddorol ar bynciau’n ymwneud â’r delyn, ac yn darparu gofod hysbysebu i ddigwyddiadau’n gysylltiedig â’r delyn, nwyddau, a llawer mwy.
- Mae ein hyb ar-lein yn galluogi aelodau i rwydweithio a chysylltu â’i gilydd, derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sydd ar y gweill, rheoli eu tanysgrifiadau, derbyn cylchlythyrau’n rheolaidd, bwcio digwyddiadau, rhannu adnoddau ar-lein a gweld ein archifau.
- Cynnal digwyddiadau telyn cyffrous! Rydym yn cynnal partïon Nadoligaidd yn Llundain a Chaerdydd, a chynhelir ein Cyfarfodydd Blynyddol me wn gwahanol ddinasoedd ledled y DU. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r lleoliadau wedi cynnwys Manceinion, Llundain, Caerdydd a Chaeredin.
- Drwy roi nawdd, rydym yn cefnogi digwyddiadau blaenllaw ym myd y delyn yn y DU.
- Mae ein bwrsariaeth - a ddyfernir ddwywaith y flwyddyn - yn galluogi aelodau i gynnig am wobr ariannol o hyd at £500 tuag at unrhyw brosiect sy’n cynnwys y delyn, megis cyngherddau, gweithdai, dosbarthiadau meistre, recordio, gwaith cymunedol neu waith allgymorth.
- Mae ein Cynllun i Egin Artistiaid yn rhoi arweinaid a chefnogaeth i delynorion proffesiynol ar ddechrau eu gyrfaoedd drwy gyfres o gyngherddau cydweithredol.
- Rhoi cyfle i berfformio i enillwyr Cystadleuaeth Telyn Camac yng Ngwyl Gogledd Llundain.
- Cynnig gostyngaid ar yswiriant telyn ac ategolion drwy gwmni yswiriant Jack Hayward Insurance
YMUNWCH Â NI
Mae aelodaeth o Gymdeithas Telynau’r DU yn agored i unrhywu un sydd â diddoredeb yn yr offeryn, p’un ai fel telynorion, rhai sy’n gwerthu telynau, neu’n syml yn caru sain yr offeryn ac yn awyddus.
Mae gan y gymdeithas dros 400 o aelodau ar hyn o byrd: chwaraewyr proffesiynol, pobl wedi ymddeol, amaturiaid a myfyr wyr o bob oedran - yn ogystal â busnesau sy’n ymwneud â’r delyn.
Rydm yn gymdeithas sy’n gwasanaethu pob rhan o’r Deyrnas Unedig, ac rydym yn croesawu aelodau o bob rhan o’r byd.
PWY DDYLAI YMUNO?
Unrhyw un sy’n canu’r delyn: proffesiynol, myfyriwr ac amatur.
Unrhyw un sy’n cynnig gwasanaethau i gymuned y delyn.
Unrhyw un sy’n caru’r offeryn ac sydd â ddiddordeb mewn
unrhy w beth sy’n ymwneud â’r delyn.
CYFRADDAU AELODAETH (AM FLWYDDYN)
. Aelodaeth myfyriwr (o fewn y DU yn unig - 23 ac iau) £15
. Aelodaeth lawn (o fewn y DU yn unig) £22
. Aelodaeth lawn (tu allan i’r DU) £31
. Aelodaeth gorfforaethol (o fewn y DU yn unig) £44
. Aelodaeth gorfforaethol (tu-allan i’r DU) £53
I ymuno, neu i adnewyddu aelodaeth gyfredol, e-bostiwch admin@ukharp.net os gwelwch yn dda.
PWT O HANES
Mae gwreiddiau’r UKHA yn mynd yn ôl i 1959 pan, yn ystod y Gystadle uaeth Ryngwladol Gyntaf i Delynorion, a gynhaliwyd yn Israel, awgrymodd Pierre Jamet y dylid ffurfio cymdeithas ryngwladol y telynori on, i’w hadnabod fel yr Association Internationale des Harpistes et Amis de la Harpe. Datblygwy d y cynllun hwn mewn nifer o wledydd ledled y byd. Gofynnwyd i Jamet, gan Maria Korchinska, ystyried ffurfio Adran y Deyrnas Gyfunol o’r Gymdeithas, gyda chymorth Michael Jefferies a John Marson.
O ganlynaid i arolwg a drefnwyd ymhlith rhai o’r prif delynorion proffesiynol yn Llundain, gwelwyd fod cefnogaeth gref i’r syniad. Cytunwyd felly i fwrw ’mlaen, a daeth yr United Kingdom Harpists Association i fodolaeth ar 1 Hydref 1964.
Yn y cyfnod ers hynny, mae’r Gymdeithas wedi agor ei haelodaeth nid yn unig i delynorion proffesiynol, ond hefyd i fyfyrwyr, amaturiaid a charedigion yr offeryn, ac fe’i gelwir bellach yn The United Kingdom Harp Association.
Y Llywydd cyntaf oedd John Sebastian Morley.
Y Llwydd presennol yw Sioned Williams a’r Is-lywydd yw Ruth Faber.
UKHA Logo: Hilary Willson